Llythyr at yr Aelodau - Ebrill 2015

Cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei drydydd cyfarfod yn 2015 ar 24 Ebrill. Ysgrifennaf atoch i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi.

Y Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad

Ystyriodd y Bwrdd yr ymatebion i’r ymgynghoriad cyffredinol ar y Penderfyniad Drafft ar gyfer y Pumed Cynulliad, a gyhoeddwyd ar 6 Mawrth ac a ddaeth i ben ar 8 Ebrill 2015. Rydym hefyd wedi ystyried gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau ynghylch deiseb a ddaeth i law ar gyflog yr Aelodau yn y dyfodol.

Rydym bellach wedi dod i gasgliadau terfynol ar bob agwedd ar gydnabyddiaeth a chymorth ariannol. Ar 22 Mai, byddwn yn cyhoeddi ein Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad, fel yr ymrwymwyd, flwyddyn cyn yr etholiad cyffredinol yng Nghymru.

Ochr yn ochr â’r Penderfyniad, byddwn hefyd yn cyhoeddi adroddiad sy’n esbonio ein nod a’n meddylfryd wrth lunio ein casgliadau.

Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Penderfyniad Drafft ar gyfer y Pumed Cynulliad

Cymorth Grŵp

Drwy’r ymgynghoriad ar y Penderfyniad drafft, bu’r Bwrdd yn ymgynghori ar fodel newydd ar gyfer cyllid Grwpiau. Cafodd y Bwrdd ymatebion gan bob un o’r Grwpiau yn y Cynulliad. Hefyd cafodd y Bwrdd adborth drwy’r grwpiau cynrychioliadol sefydledig o Aelodau a staff cymorth Aelodau’r Cynulliad.

Y materion allweddol oedd cyfanswm y swm sydd ar gael, cyllid ar gyfer pleidiau mewn llywodraeth glymblaid; swm y cyllid craidd; ac a ellid cyfiawnhau’r cyllid craidd i gefnogi unigolion neu barau o Aelodau.

Mewn ymateb i’r adborth hwn, mae’r Bwrdd wedi adolygu’r fformiwla arfaethedig ar gyfer penderfynu ar y cyllid ar gyfer Grwpiau, ac wedi gwneud rhai addasiadau. Cyhoeddir y fformiwla ddiwygiedig yn y Penderfyniad terfynol ar gyfer y Pumed Cynulliad, gydag eglurhad ar gasgliadau’r Bwrdd yn yr adroddiad atodol.

 

 

 

 

 

Pensiynau

Clywodd y Bwrdd adroddiad cynnydd am y cynllun pensiwn newydd. Mae’r Bwrdd wedi ystyried sylwadau gan Fwrdd Ymddiriedolwyr y Cynllun Pensiwn ar y cynllun drafft, a bydd yn ysgrifennu ato ar wahân gyda’i ymateb. Yn dilyn trafodaethau gyda Thrysorlys EM rydym yn gobeithio cymeradwyo cynllun pensiwn newydd dros yr haf.

Er mwyn rhoi’r darlun cliriaf i ymgeiswyr posibl ar gyfer y Pumed Cynulliad, cytunodd y Bwrdd y byddai, serch hynny, yn cyhoeddi prif nodweddion ei gynllun arfaethedig fel rhan o’r Penderfyniad, gyda chofnod o’r ffaith ei fod yn aros am gymeradwyaeth swyddogol y Trysorlys, fel sy’n ofynnol o dan y Ddeddf Pensiynau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Ystyriodd y Bwrdd yr adroddiad Prisiad Actiwaraidd ar Gynllun Pensiwn yr Aelodau hefyd, a bydd yn gofyn am ragor o wybodaeth am rai agweddau yn hyn o beth gan yr Ymddiriedolwyr. 

Materion eraill

Rydym wedi diwygio’r Penderfyniad ar gyfer 2015-16  (adran 3.4). Roedd yr adran hon yn mynd i’r afael â’r nifer fach o Aelodau sy’n dal swyddi sy’n parhau y tu hwnt i ddiddymiad y Cynulliad ym mis Ebrill 2016 (y Llywydd, y Comisiynwyr a’r Cabinet) na fyddent yn Aelodau yn y Cynulliad nesaf. Roedd ein penderfyniad cychwynnol yn ceisio osgoi sefyllfa lle byddai’r deiliaid swyddi hynny yn rhan o’r cynllun pensiwn newydd am ychydig o ddyddiau ar ddechrau’r Cynulliad nesaf, tan y penodir rhywun yn eu lle (neu, tan eu bod yn ymddiswyddo o’r swydd). Mae adran 3.4 yn darparu ar gyfer taliad lwfans yn lle cyflog, sy’n osgoi unrhyw angen i gael eu cynnwys yn y Cynllun newydd am gyfnod byr.

Yn dilyn hynny, rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd, pe bai’r polisi hwn yn cael ei roi ar waith, byddai’r deiliaid swyddi yn colli eu buddion marwolaeth mewn swydd ar adeg y diddymu (tan y caiff y swyddi hynny eu llenwi yn y Cynulliad newydd). Mae’r Bwrdd yn awyddus i osgoi unrhyw anfanteision a allai fod yn annheg i Aelodau, felly rydym bellach wedi cael gwared ar adran 3.4. Bydd yr Aelodau hynny felly yn rhan o’r Cynllun Pensiwn newydd am gyfnod byr a byddant hefyd yn cadw eu hawl i yswiriant bywyd (buddion marwolaeth mewn swydd) nes iddynt beidio â dal eu swydd.

 

 

 

 

 

 

 

Y camau nesaf

Fel arfer, rwy’n bwriadu cyhoeddi’r llythyr hwn yn gyhoeddus ar ein gwefan, cyn gynted ag y bydd yr Aelodau wedi cael cyfle i’w ddarllen.

 

Rwy’n fodlon cwrdd ag Aelodau Cynulliad unigol neu blaid. Os hoffech gwrdd â mi, cysylltwch â Gareth Price, Clerc y Bwrdd, drwy anfon neges at taliadau@cynulliad.cymrui wneud trefniadau. 

 

Yn gywir

Sandy Blair CBE DL

Cadeirydd / Chair

Y Bwrdd Taliadau